Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Ionawr 2025
Amser:
09.00 -
12.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14790
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Sam Rowlands AS |
|
Tystion: |
Lis Burnett, Arweinydd, Cyngor Bro Morgannwg Anthony Hunt, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Nia Jeffreys, Arweinydd, Cyngor Gwynedd Andrew Morgan, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Darren Hughes, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru Catherine Phillips, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd Grŵp Cymheiriaid Cyfarwyddwyr Gweithredol Cyllid Lance Carver, Cadeirydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru) a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg Jane Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Powys (hefyd y Swyddog a.151 yn cynrychioli Cymdeithas Trysoryddion Cymru) Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan |
|
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Sian Giddins (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Rhiannon Williams (Dirprwy Glerc) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Božo Lugonja (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 gan y tystion a ganlyn: y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg; y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd; y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; a'r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn gofyn cwestiwn nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 gan y tystion a ganlyn: Darren Hughes, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru; Catherine Phillips, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Chadeirydd Grŵp Cymheiriaid y Cyfarwyddwyr Gweithredol Cyllid; Lance Carver, Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bro Morgannwg; a Jane Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Powys (hefyd y Swyddog a.151 yn cynrychioli Cymdeithas Trysoryddion Cymru).
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024. Nododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn, cyn penderfynu peidio â chyhoeddi adroddiad ar wahân.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025. Nododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn, cyn penderfynu peidio â chyhoeddi adroddiad ar wahân.
10.1 Nododd y Pwyllgor y papur ar yr ymgynghoriad ar adolygiad o God Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn penderfynu peidio ag ymateb yn ffurfiol.
11.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2025-26.